Mae nifer y myfyrwyr o Gymru sydd yn mynd i brifysgolion yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu, yn ôl ffigurau diweddar.

Yn 2018/19 roedd 99,310 o fyfyrwyr o Gymru yn y prifysgolion yma, ac mae hynny’n gynnydd 2.6% o gymharu â’r 96,780 yn 2017/18.

Daw ffigurau diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn sgil chwe blynedd o gwymp mewn niferoedd.  

Mae’r nifer o fyfyrwyr mae prifysgolion Cymru yn eu derbyn hefyd wedi cynyddu rhyw ychydig , o 121,010 yn 2017/18 i 121,880 yn 2018/19.

“Croeso i’r ffigurau”

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r ystadegau, ac yn honni mai eu diwygiadau i gyllid myfyrwyr sydd yn gyfrifol am y cynnydd yma. 

“Rydw i eisiau gwneud addysg uwch yn fwy hygyrch i bobl o Gymru, felly mae croeso i’r ffigurau,” meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg. 

“Mae nifer y cofrestriadau’n bleserus iawn o ystyried bod nifer yr ieuenctid 18 oed yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”