Mae dyn 52 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn iau yn Rhondda Cynon Taf y mis diwethaf.

Bu farw Luke Williams, 26, yn Ysbyty Tywysog Charles ar Ragfyr 19 yn dilyn digwyddiad yn Commerce Place, Aberaman,  tua 8.50yp ar Ragfyr 16. 

Yn wreiddiol, cafodd John Davies, o Aberaman, ei arestio a’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, a chafodd ei gadw yn y ddalfa. 

Ond bellach mae wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Luke Williams ac mi fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd fore heddiw.