Mae Liz Saville Roberts, a’i thafod yn ei boch, wedi cynnig bod yn “llais cefndir” i Dafydd Iwan, ar ôl i fideo ohoni’n canu ‘Yma O Hyd’ yn Nhŷ’r Cyffredin ledu ar wefan Twitter.

Roedd hi’n ymateb i sylw gan June James (@JuneArcadia), oedd yn dweud y gallai Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionnydd ganu’r gân yn llawn yng ngorymdaith annibyniaeth Wrecsam ar Ebrill 18.

“Byddai’n fraint cael bod yn llais cefndir i’r prif leisydd Dafydd Iwan,” meddai wrth ymateb.

Wrth drafod y gân yn Nhŷ’r Cyffredin, eglurodd ei bod yn trafod “ymosodiadau diddiwedd ar Gymru”, ac awgrymodd ei bod yn bryd “diweddaru’r geiriau” i ddweud “er gwaetha’r hen Foris a’i griw”.

Aeth yn ei blaen i ganu’r llinell “Dan ni yma o hyd”. 

Fe wnaeth y Llefarydd Lindsay Hoyle dorri ar ei thraws a dweud wrth David TC Davies, 

“Dewch ymlaen Weinidog, atebwch” cyn ychwanegu y byddai’n rhaid symud y drafodaeth yn ei blaen.

Y drafodaeth

Daeth y ‘perfformiad’ yn ystod trafodaeth ar gronfa newydd sydd wedi’i sefydlu i rannu llewyrch gwledydd Prydain yn sgil Brexit.

Roedd Liz Saville Roberts yn gofyn am sicrwydd nad dim ond ardaloedd “sydd wedi’u lliwio’n las” ar fap Cymru, hynny yw yn seddi Ceidwadol, fyddai’n elwa o’r gronfa. 

Dywedodd y dylid “adeiladu cenedl gyfan”, gan gynnwys rheilffordd o’r de i’r gogledd “fel 

na fyddai’n rhaid teithio drwy’r wlad drws nesaf”.

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Cymru, fod y Llywodraeth Geidwadol wedi ymrwymo i sicrhau na fydd Cymru ar ei cholled o gwbl o ganlyniad i Brexit.