Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Richard Parks wedi torri ei record Brydeinig ei hun am sgïo i Begwn y De, ond mae e wedi methu â thorri record y byd.

Teithiodd e ar ei ben ei hun o arfordir yr Antarctig i Begwn y De mewn 28 diwrnod er gwaethaf newyn, eira trwm a thymheredd isel dros ben.

Fe gymerodd e 29 diwrnod, 19 awr a 24 munud i gwblhau’r antur yn 2014, ddiwrnod yn fwy na’r tro hwn.

Mae e bellach wedi sgïo ar ei ben ei hun yn yr Antarctig yn fwy na neb arall erioed.

Fe ddechreuodd ei daith am 11.23yb ar Ragfyr 17 gyda gwerth 25 diwrnod o fwyd, ac fe ddringodd 2,800 metr uwchben lefel y môr – dwywaith uchder mynydd Ben Nevis.

Pe bai e wedi derbyn pecyn bwyd, fe fyddai hynny wedi cael ei gyfrif fel derbyn cymorth ac fyddai’r record ddim yn ddilys.

Ei nod yn wreiddiol oedd torri record byd Christian Eide o 24 diwrnod, un awr ac 13 munud.

Yn 2011, Richard Parks oedd y person cyntaf erioed i ddringo mynydd uchaf pob un o’r saith cyfandir yn y byd a sefyll ar Begwn y De a Phegwn y Gogledd o fewn blwyddyn galendr.

Mae’r gamp honno wedi’i chofnodi yn y Guinness Book of Records.