Mae gyrrwr bws mini wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth bachgen saith oed yn ardal Trefynwy.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd A466 am oddeutu 3.50 brynhawn dydd Llun (Ionawr 13).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, a chafodd y gyrrwr 45 oed o Gaerloyw ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal.

Roedd y bachgen yn mynd i’r ysgol leol yn Osbaston, ac maen nhw wedi talu teyrnged iddo.