l

300 o bobol wedi cael eu haresti

 

Fe wnaeth gwaith uned Heddlu’r De arwain at gipio gwerth 30kg o gyffuriau ac arestio mwy na 300 o bobol yn 2019, yn ôl eu ffigurau.

 

Bwriad uned Tarian yw mynd i’r afael â thorcyfraith sydd wedi’i drefnu yn y de, a rheoli’r perygl o droseddau’n ymwneud ag arfau, cyffuriau, ecsbloetio plant yn rhywiol, troseddau ar y we a chaethwasiaeth.

 

Fe wnaeth yr uned arestio 47 o bobol yn uniongyrchol, a llwyddo i garcharu troseddwyr am gyfanswm o 199 o flynyddoedd.

Fe wnaethon nhw gipio chwe dryll yn unol â’r ddeddf arfau a chipio 21.6kg o gyffuriau dosbarth A a 10kg o ganabis.

Maen nhw hefyd yn cefnogi unedau ac asianaethau eraill, ac mae’r gwaith hwnnw wedi arwain at arestio 265 o bobol, a dedfrydau o 289 o flynyddoedd.

Mae’r uned hefyd wedi cipio gwerth £2m o arian sy’n deillio o droseddau, ac mae cyfrifon pedwar o bobol wedi cael eu rhewi yn unol â deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym y llynedd.

Mae’r uned yn cefnogi gwaith heddluoedd y De, Gwent a Dyfed-Powys.

‘Blwyddyn lwyddiannus o warchod pobol rhag niwed’

“Fe fu’n flwyddyn lwyddiannus iawn i Tarian wrth i ni barhau i dyfu ac ehangu ein gallu,” meddai’r Ditectif Uwch Arolygydd Richard Williams, pennaeth uned Tarian.

“Diolch i waith caled ein swyddogion ac asiantaethau sy’n bartneriaid, fe dreuliodd nifer fawr o droseddwyr sylweddol y Nadolig dan glo ac rydym wedi tynnu cyfanswm sylweddol o gyffuriau ac arfau anghyfreithlon oddi ar y strydoedd.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r frwydr yn erbyn troseddau difrifol a throseddau wedi’u trefnu yn 2020, a gwarchod pobol ledled de Cymru rhag niwed.”