Llun: Fondation Yann Fouere
Fe fu farw’r cenedlaetholwr o Lydaw, Yann Fouere ar 20 Hydref yn 101 oed.

Cafodd ei eni yn Aignan, Gers, yn Ffrainc yn 1910.

Yann Fouere oedd un o sefydlwyr a Llywydd ‘Ar Brezhoneg er Skol’ yn 1934, sef undeb ar gyfer dysgu Llydaweg yn yr ysgolion, a bu’n  Is-Lywydd ‘Union Regionaliste Bretonne’ yn y 1930au.  Fe ddaeth yn ysgrifennydd cyffredinol ar ‘Comite Consultatif de Bretagne’ a sefydlwyd er mwyn trafod hawliau Llydawyr, a bu’n olygydd/cyfarwyddwr gwleidyddol dau bapur dyddiol Llydaweg ‘La Bretagne’ ac yn ddiweddarach ‘L’Avenir de La Bretagne’. Roedd hefyd yn un o sefydlwyr y Gyngres Geltaidd ym 1961.

Cafodd ei alltudio o Lydaw yn dilyn yr Ail Ryfel Byd pan gafodd miloedd o Lydawyr eu harestio gan awdurdodau Ffrainc am hybu’r iaith a’i diwylliant.  Cafodd loches yn gyntaf yng Nghymru gyda Gwynfor Evans, DJ Williams a Gwenallt ymhlith eraill, cyn symud i  Connemara yn Iwerddon lle bu’n byw gyda’i deulu am gyfnod hir cyn i’r awdurdodau yn Ffrainc ganiatau iddo ddychwelyd i fyw i Lydaw.

Lansiwyd cyfieithiad Saesneg o’i lyfr ‘La Maison’ in Connemara yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 16 Medi eleni yng nghwmni ei ferch Rozenn Fouere Barrett a’i fab Erwan Fouere.