Cyhoeddodd y gweinidog tai, Julie James, y bydd buddsoddiad mewn tai newydd yng Nghymru yn cyrraedd £400m  yn 2020-21, a hynny o ganlyniad i hwb cyllidebol o £175m gan Lywodraeth Cymru.

Nod Llywodraeth Cymru yw darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn 2021. Daw’r buddsoddiad ychwanegol o £175m a’r cyfanswm a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu cartrefi newydd i £2bn dros dymor y Cynulliad hwn.

Dywedodd Julie James: “Mae tai yn brif flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, ac mae hyn wedi ei adlewyrchu yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21.

“Mae cartrefi o ansawdd da yn sylfaen i gymunedau da ac yn sail i unigolion a theuluoedd ffynnu ym mhob agwedd o’u bywydau.

“Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn helpu i sicrhau ein bod yn adeiladu mwy o’r cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy sydd eu hangen ar bobl ledled Cymru.”

Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cynnwys:

  • £50 miliwn i ariannu benthyciadau tai.
  • £35 miliwn i ariannu Cymorth i Brynu Cymru.
  • Buddsoddir £5 miliwn yn y gronfa rhyddhau tir, er mwyn datblygu tir cyhoeddus i’w ddefnyddio ar gyfer tai cymdeithasol.
  • £10 miliwn i gefnogi dulliau modern o adeiladu yng Nghymru.