Cau gwesty Caer Rhun yn Nyffryn Conwy

Diweddarwyd  
Gwesty Caer Rhun yn Nyffryn Conwy oedd wedi cael ei roi yn nwylo'r derbynwyr ond bellach wedi cau

Gwesty Caer Rhun yn Nyffryn Conwy oedd wedi cael ei roi yn nwylo’r derbynwyr ond bellach wedi cau

Llun: Gwefan Caer Rhun Hall

Daeth cadarnhad ddydd Llun (Ionawr 13) bod gwesty Caer Rhun Hall yn Nyffryn Conwy wedi cael ei gau, pum mis ar ôl cael ei roi yn nwylo’r derbynwyr.

Roedd y gwesty wedi cael ei brynu gan gwmni Northern Powerhouse Developments (NPD) yn 2015 am £1m.

Eu bwriad oedd troi’r safle o fod yn lleoliad ar gyfer priodasau i fod yn westy. Ond cafodd Caer Rhun Hall ei roi yn nwylo’r derbynwyr, Duff & Phelps Cyf, ar Awst 8 y llynedd.

Roedd y gwesty wedi parhau i fasnachu ond fe wnaed y penderfyniad i gau Caer Rhun heddiw (Dydd Llun, Ionawr 13).

“Penderfyniad anodd”

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y derbynwyr Duff & Phelps eu bod nhw wedi gwneud “y penderfyniad anodd” i gau’r gwesty oherwydd “sefyllfa ariannol y gwesty a nifer o broblemau iechyd a diogelwch ar y safle na ellir eu datrys heb ariannu pellach. Nid yw’r opsiwn yma yn ymarferol ac er mwyn diogelwch y staff a’r gwesteion, mae’r gwesty wedi ei gau.”

Ychwanegodd bod y staff wedi cael gwybod bore ma ac y bydden nhw’n derbyn tal llawn am eu gwaith.

Mae nifer o briodasau wedi cael eu trefnu yn y gwesty ac fe fydd y derbynwyr yn trafod yn uniongyrchol gyda nhw i wneud trefniadau eraill, meddai.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn