Fe wnaeth criw o ymgyrchwyr tros annibyniaeth i Gymru a’r Alban a thros Iwerddon unedig fanteisio ar y glaw trwm yn Glasgow i drafod sut i gydweithio ar orymdeithiau annibyniaeth yn y dyfodol.

Mae Gwion Hallam yn dweud bod yr orymdaith a ddenodd hyd at 100,000 i’r ddinas Albanaidd wedi bod “yn wych ond yn wlyb”.

Cafodd yr orymdaith fawr ei threfnu gan All Under One Banner, gyda’r torfeydd yn cyd-gerdded o Kelvingrove Park i Glasgow Green, wrth iddyn nhw ymateb i ganlyniad etholiad cyffredinol San Steffan fis diwethaf.

Roedd un placard yn y dorf yn dweud “Byddai’n well gen i fod yn y glaw nag yn y Deyrnas Unedig”.

Bu’n rhaid canslo’r rali ar ôl yr orymdaith yn sgil y tywydd, ond fe ddaeth criw o Gymru, yr Alban ac Iwerddon at ei gilydd i drafod ffyrdd o gydweithio yn y dyfodol.

Cafodd yr orymdaith ei hun sylw yn y cyfryngau mor bell i ffwrdd â Ffrainc.

Cynrychiolaeth o Gymru

Roedd Yes Cymru Caernarfon yn un o nifer o griwiau o Gymru oedd wedi teithio’r holl ffordd i Glasgow ar gyfer y digwyddiad, yn unigolion ac yn grwpiau.

“O’n i’n disgwyl fyddai ychydig filoedd yno, ond roedd hyd at 100,000 ac o ystyried fod y tywydd yn ddifrifol, mae’n rhyfeddol,” meddai Gwion Hallam, cadeirydd Yes Cymru Caernarfon, wrth siarad â golwg360 yn ystod y daith yn ôl i Gymru.

“Ond y peth cyffrous i ni fel criw Yes Caernarfon ac Yes Cymru ar y cyfan oedd gweld cymaint o faneri Cymru – Dreigiau Coch, Yes Cymru, Cefnogwyr Pêl-droed Cymru dros Annibyniaeth…. Roedd hynny’n arbennig.

“Roedden ni wedi bod yn cerdded am rai oriau, a bydden ni wedi mynd rownd y castell lot o weithiau tasen ni yng Nghaernarfon fel oedden ni llynedd.

“Ar hyd y daith, roedd Albanwyr yn dod aton ni ac yn holi o le’r oedden ni wedi dod ac yn falch fod Cymry wedi dod i gefnogi.

“Roedd rhai yn gaddo dod lawr i gefnogi’n gorymdaith nesa’ ni ym mis Ebrill yn Wrecsam.”

Cydweithio er lles Cymru, yr Alban ac Iwerddon

Yn ôl Gwion Hallam, mae’r ffaith fod y Ceidwadwyr wedi ennill yr etholiad cyffredinol fis diwethaf yn golygu ei bod yn “hanfodol” fod Cymru, yr Alban ac Iwerddon yn dod ynghyd i drafod y ffordd ymlaen.

Un syniad ar y gweill yw trefnu gorymdeithiau cenedlaethol ar y cyd yn y tair gwlad.

“Mae’n gyfnod cymhleth o ran y sefyllfa yng Nghymru ac o ran y ffaith fod y Torïaid wedi ennill seddau, ond mae’n galonogol ond yn gyfle newydd wrth i bobol weld bod annibyniaeth yn hanfodol i Gymru.

“Nid rhannu na chwalu’r undeb yw’r nod ond trin gwledydd Prydain yn gyfartal a byddai Cymru, yr Alban, Iwerddon a Lloegr hefyd yn rhan o’r Brydain yna ond Prydain wahanol iawn, lle mae cydraddoldeb a phob gwlad yn cael yr un tegwch i allu rheoli ei chyllideb a’i harian a’i dyfodol ei hunan.

“Mae cydweithio â’r Alban yn allweddol i ni.

“Ar ôl yr orymdaith, roedd cyfarfod wedi’i drefnu mewn ystafell mewn tafarn yn y ddinas i ni a chriw’r Alban a chriw Iwerddon Unedig hefyd, ac roedd hwnna’n eitha’ hanesyddol mewn ffordd, fod mudiadau annibyniaeth ar lawr gwlad y dair gwlad yna’n dod at ei gilydd am y tro cyntaf, ac roedd hynny’n grêt.

Tynnu ar brofiad yr Alban i helpu Cymru

Mae’n dweud y gall Cymru ddysgu oddi wrth yr Alban wrth i’r gorymdeithiau a’r mudiad annibyniaeth ar y cyfan godi stêm, gyda nifer o orymdeithiau ar y gweill yng Nghymru eto eleni.

“Roedd y ffaith ein bod ni wedi gallu cyfarfod ar ôl yr orymdaith gyda rhai o drefnwyr All Under One Banner yr Alban yn arbennig o ddefnyddiol ac addawol i’r dyfodol.

“Un syniad yw trefnu gorymdeithiau yn y dyfodol agos fydd yn digwydd yn y dair gwlad – gorymdaith fawr yng Nghymru, gorymdaith fawr yn yr Alban a gorymdaith fawr dros Iwerddon Unedig yng Ngogledd Iwerddon hefyd.

“Er bod y gwledydd yn wahanol iawn i’w gilydd – mae Cymru a’r Alban yn wahanol iawn mewn lot o ffyrdd – un peth sy’n amlwg yw fod y ddwy wlad wedi cael eu trin yn annheg ac yn anghyfartal ers degawdau a mwy o achos rheolaeth o San Steffan.

“Rhaid pwysleisio nad Lloegr na phobol Lloegr fel y cyfryw yw’r broblem, ond y ffaith mai llywodraeth Loegr neu lywodraeth San Steffan sy’n cam-weinyddu a chamdrin y gwledydd eraill mewn ffordd drwy ddiffyg cyllid a diffyg sylw a hawliau.

“Mae’r Alban a Chymru yn debyg iawn yn hynny o beth.”