Mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhybuddio’r cyhoedd i beidio â chymryd cerrig gleision o Fynyddoedd y Preseli – cerrig sydd yn rhan o Gôr y Cewri.

Daw hyn wedi i’r llu ddod o hyd i un o’r cerrig yma yn cael ei ddefnyddio’n addurn mewn gardd flaen yn Arberth, Sir Benfro.

Gwnaeth swyddogion ddarganfod y garreg ar ôl derbyn adroddiad bod dau ddyn wedi cymryd carreg las o Fynachlog-ddu am dri’r prynhawn, Rhagfyr 29.

Doedd y person a gymerodd y garreg ddim yn ymwybodol bod y weithred yn anghyfreithlon, a bellach mae’r llu wedi tynnu sylw at hyn.

Gweithred “anghyfreithlon”

“Er nad yw, efallai, yn ymddangos fel bod cymryd cerrig gleision yn achosi niwed, mewn gwirionedd mae’r weithred yn anghyfreithlon,” meddai’r Arolygwr Reuben Palin.

“Yn y gorffennol mae pobol wedi cymryd cerrig gleision am resymau ysbrydol ac iechyd – mae sôn eu bod yn llesol. Ac yn yr achos yma cymerwyd carreg fawr er dibenion addurno.

“Rydym yn erfyn ar ymwelwyr â’r ardal i barchu’r ardal ac i beidio cymryd unrhyw beth am resymau personol neu ariannol.”

Côr y cewri

Mae’r cerrig yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Mynydd Preseli ac o Ardal Cadwraeth Arbennig Preseli.

Dirgelwch sydd yn dal i ddrysu archeolegwyr yw bod y cerrig yma yn rhan o heneb Côr y Cewri, Wiltshire – 150 milltir i ffwrdd o Fynyddoedd y Preseli.