Mae corff sy’n cynrychioli colegau Cymru wedi dweud ei fod yn “bryderus iawn” yn sgil pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin tros raglen addysg Ewropeaidd.

Brynhawn dydd Mercher (Ionawr 8) mi bleidleisiodd Aelodau Seneddol yn erbyn gwelliant i Fil Brexit Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Byddai’r gwelliant hwnnw wedi gorfodi’r Llywodraeth i drafod â’r Undeb Ewropeaidd ynghylch cadw gwledydd Prydain yn aelod llawn o raglen Erasmus+.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd tramor i fyfyrwyr ac yn darparu cyllid i sefydliadau addysg.

Mae’r bleidlais wedi siomi’r corff ColegauCymru.

Penderfyniad yn “arswydo”

“Rwy’n arswydo yn y penderfyniad i ddiystyru ceisio aelodaeth lawn barhaus o gynllun Erasmus+,” meddai Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies.

“Yn ei hanfod, mae hyn yn rhwystro dysgwyr a myfyrwyr addysg bellach rhag cymryd rhan mewn rhaglen a gydnabyddir yn rhyngwladol…

“Wrth i ni ddechrau degawd newydd, rhaid peidio anfanteisio cenedlaethau o ddysgwyr o Gymru yn y dyfodol. Bydd penderfyniadau a wneir nawr yn effeithio ar ein dysgwyr yn y degawdau i ddod.”

Mae’r Prif Weithredwr yn dweud ei fod wedi gofyn am “gyfarfod brys” gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, am y mater.

Cyd-destun

Pe bai’r cymal wedi ei basio byddai’r Llywodraeth wedi cael ei gorfodi, gan y gyfraith, i drin rhaglen Erasmus+ yn flaenoriaeth yn nhrafodaethau Brexit.

Dyw pleidleisio yn erbyn y gwelliant ddim yn gyfystyr â’r Deyrnas Unedig yn cefnu ar y cynllun yn llwyr.