Mae Stephen Kinnock, aelod seneddol Llafur Aberafan, yn dweud wrth golwg360 fod gweithwyr dur Tata Port Talbot yn dangos “nerth, amynedd, dewrder a gwytnwch rhyfeddol”.

Daw ei ymateb yn dilyn erthygl yn y Sunday Times, lle mae un o’r penaethiaid, Natarajan Chandrasekaran yn dadlau na fyddan nhw’n goddef rhagor o golledion ar y safle.

Mae’r cynghorydd lleol, Dennis Keogh ac Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Sayed ill dau wedi beirniadu’r sylwadau yn y wasg, gan ddweud bod ymateb y penaethiaid yn achosi ansicrwydd i’r gweithwyr.

“Yn 2016, fe ddaeth Tata i gytundeb â’u gweithwyr ynghylch pensiynau, lle gwnaethon nhw gytuno na fyddai unrhyw ddiswyddiadau gwirfoddol,” meddai Stephen Kinnock wrth golwg360.

“Ond mae cyhoeddiad Tata o’r newydd fis Tachwedd ynghylch colli swyddi, ac yna sylwadau Mr Chandrasekaran y penwythnos hwn, fel pe baen nhw’n bygwth y cytundeb hwnnw.” 

Diffyg buddsoddi

Fel Dennis Keogh, mae Stephen Kinnock hefyd yn dweud bod y safle dur ym Mhort Talbot yn dioddef o ddiffyg buddsoddiad.

“Mae prosiectau megis adnewyddu ffwrnais rhif pump i’w croesawu’n fawr iawn, ond mae’n cymryd amser i’r fath fuddsoddiadau ddwyn ffrwyth.

“Mae ein gweithwyr dur wedi dangos nerth, amynedd, dewrder a gwytnwch rhyfeddol drwy’r amserau anodd hyn.

“Rhaid i Tata Steel ddangos yr un rhinweddau nawr.”

Galw am gefnogaeth Brydeinig

Ar yr un pryd, mae’r aelod seneddol Llafur yn galw ar Lywodraeth Geidwadol Prydain i “ddihuno” ac ymateb i’r sefyllfa.

“Dylai sylwadau Mr Chandrasekaran ddihuno Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae dur yn ddiwydiant ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac yn rhan hanfodol o’r economi gyfoes; ar gyfer ein diwydiant amddiffyn, y sector modurol, prosiectau isadeiledd a’n bywydau bob dydd.

“Rhaid i’r llywodraeth ymrwymo i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig drwy gefnog Cytundeb Sector y Deyrnas Unedig ar gyfer Dur, gan adlewyrchu’r trefniadau a wnaethpwyd ar gyfer y sectorau aerofod, modurol ac adeiladu.

“Yn 2016, fe wnaeth ‘aelodau seneddol dur’ ofyn i’r llywodraeth gefnogi’r sector mewn sawl ffordd, gan gynnwys lleihau cyfraddau busnes a phrisiau ynni, a thrwy brynu mwy o ddur Pyrdain.

“Ond eto i gyd, rydyn ni wedi gweld braidd dim cynnydd; mae’r llywodraeth ar hyn o bryd yn prynu oddeutu hanner ei dur o Brydain ac mae prisiau ynni ddwywaith prisiau Ffrainc a 50% yn uwch na phrisiau’r Almaen.

“Mae cynhyrchwyr dur y Deyrnas Unedig yn cystadlu ag un llaw wedi’i chlymu y tu ôl i’w cefnau, ac mae’n bryd i’r llywodraeth sefyll lan dros ddur.”