Mae Suzy Davies, yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, yn dweud ei bod hi’n cytuno â’r newyddiadurwr Huw Edwards y dylid gwarchod enwau Cymraeg – ac mae hi’n galw am ragor o raglenni newyddion am y gwledydd datganoledig.

Fe fu Huw Edwards yn mynegi pryder am “lanhau ieithyddol”, drwy newid enwau Cymraeg i rai Saesneg, er enghraifft newid Porth Trecastell yn ‘Cable Bay’, a Nantcwnlle yn ‘Dunroamin’.

Awgrymodd Huw Edwards, yn yr un modd, y dylid newid ‘London’ i ‘Caerludd’, yr hen enw Rhufeinig ar y ddinas, cyn ychwanegu “Na, efallai ddim”.

“Mae Huw yn gwneud pwynt doniol, ond nid llai pwerus am fod mor hy,” meddai Suzy Davies.

“Ond mae’r ffaith ei fod yn dilyn adroddiad newydion ddoe fod Trafnidiaeth Cymru, yn ôl adroddiad a gafodd ei ryddhau, wedi torri’r gyfraith ynghylch ei ddefnydd o’r Gymraeg yn gwneud ei ddarllen yn drist.”

Mae’n hi’n dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi deddfwriaeth i warchod enwau Cymraeg, ond fod Llywodraeth Lafur yn ei herbyn wrth iddi golli o dair pleidlais yn unig.

Newyddion o Gymru

Wrth dynnu sylw at ba mor amlwg yw Huw Edwards fel newyddiadurwr o Gymru, awgrymodd Suzy Davies y gallai ddylanwadu ar faint o newyddion o Gymru sydd yn rhaglenni’r BBC.

“Tybed a allai ddefnyddio ei ddylanwad nid yn unig ar y mater hwn [enwau lleoedd] ond hefyd drwy ddod â mwy o newyddion o’i genedl annwyl i’r Deyrnas Unedig ar y cyfan,” meddai.

“Yn bur anaml mae Cymru – neu’r Alban neu Ogledd Iwerddon – yn ymddangos ym mhrif newyddion y cyfryngau ledled y Deyrnas Unedig.

“Hyd yn oed pan gaiff adroddiadau sylw fel rhai sy’n berthnasol i Loegr yn unig, dydyn ni ddim yn cael gwybod beth yw’r sefyllfa yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

“Mae’n bryd i’r newyddion o holl genhedloedd y Deyrnas Unedig gael ei adrodd i’r wlad gyfan oherwydd mae deall ein presennol lawn mor werthfawr â deall ein hanes.”