Mae undebau’n dweud fod “bygythiadau” penaethiaid cwmni dur Tata yn y wasg “yn siomedig iawn”.

Daw sylwadau Pwyllgor Cydlynu’r Undeb Llafur Dur Cenedlaethol wrth ymateb i erthygl yn y Sunday Times, lle mae Natarajan Chandrasekaran yn dweud na all colledion y safle barhau.

Mae Dennis Keogh, cynghorydd Port Talbot, yn dweud bod y cwmni’n “chwilio am esgus” i dynnu allan o Ewrop a symud eu gweithrediadau ymhellach i’r dwyrain i Tsieina.

“Dros y misoedd diwethaf, mae’r cwmni wedi ceisio ein tynnu ni i mewn i drafodaethau sensitive am ddyfodol Tata Steel Ewrop,” meddai’r pwyllgor, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o undebau’r GMB, Unite a Community.

“Mae’n siomedig dros ben fod Tata wedi ceisio dylanwadu ar y trafodaethau hynny drwy wneud bygythiadau yn y cyfryngau ac ychwanegu at bryderon y gweithlu.”

Maen nhw’n dweud mai diffyg cyflwyno menter ar y cyd â Thyssenkrupp a dim cynllun wrth gefn sy’n gyfrifol am y methiant, ac na ddylai’r gweithwyr “dalu’r pris” am flynyddoedd o ddiffyg buddsoddi.

“Rydym wedi egluro wrth Tata Steel, ar y lefelau uchaf, fod rhaid i’r ffordd ymlaen i Tata Steel UK gynnwys ymrwymiadau newydd i sicrwydd swyddi ac ymrwymiadau i strategaeth er mwyn gwarchod dyfodol cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig.

“Rydym wedi gofyn am gyfarfod brys o’r pwyllgor dur cenedlaethol er mwyn mynegi ein pryderon a thrafod ein blaenoriaethau ar gyfer Tata Steel UK.”