Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad yn Aberystwyth nos Sadwrn (Ionawr 4).
Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi apelio am wybodaeth ar ol i ddyn 35 oed gael ei ddarganfod yn eistedd ar silff ffenest adeilad yn Heol y Bont yn y dre tua 9yh nos Sadwrn gydag anaf difrifol i’w ben.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn lleol cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Yn dilyn yr apêl roedd dyn wedi mynd at yr heddlu a chafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.