Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yn Aberystwyth neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 4).

Cafwyd hyd i ddyn ag anafiadau difrifol i’w ben yn eistedd ar silff ffenest am oddeutu 9 o’r gloch, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty.

Cafodd ei drosglwyddo wedyn i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd yr ymosodiad, ac maen nhw’n ceisio dod o hyd i ddau ddyn a dynes oedd y tu allan i dafarn y Llew Du adeg yr ymosodiad.

Dylai unrhyw un oedd yn gyrru yn yr ardal rhwng 8 a 9 o’r gloch ac sydd â deunydd fideo gysylltu â’r heddlu.