Mae esgusodion Trafnidiaeth Cymru am ansawdd eu gwasanaeth yn y flwyddyn newydd yn “hollol annerbyniol”, yn ôl Aelod Cynulliad.
Ers dechrau’r ddegawd hon mae gwasanaethau’r cwmni wedi profi llu o drafferthion, ac mae teithwyr ledled y wlad wedi wynebu oedi.
Mewn neges ar eu cyfrif Twitter maen nhw’n beio diffyg staff am broblemau, ac yn nodi bod “salwch hir dymor, hyfforddi ychwanegol, a chyfnod Nadolig” wedi cyfrannu at hyn.
Bellach mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Russell George, wedi eu lambastio, gan ddweud bod cymudwyr Cymru’n wynebu “blwyddyn newydd wael”.
“Mae’r esgusodion sydd wedi’u cynnig … yn annerbyniol,” meddai. “Dw i’n beio camreoli, cynllunio gwael, a diffyg dealltwriaeth o broblemau tymhorol sy’n effeithio trafnidiaeth trenau…
“Mae’n hen bryd bod Llywodraeth Llafur Cymru, ac yn benodol y Gweinidog tros Drafnidiaeth [Ken Skates], yn cymryd y llyw ac yn rheoli ein gwasanaethau rheilffyrdd.”
Y problemau hyd yma
Fore heddiw cafodd gwasanaethau ar gledrau Maesteg a Glyn Ebwy eu canslo, gan achosi trafferthion i deithwyr.
Cafodd trenau eu canslo yng ngorsaf Pontypridd, ac mae adroddiadau bod teithwyr wedi cael eu rhwystro rhag defnyddio pob un o gerbydau gwasanaeth Abercynon.
Ddoe bu’n rhaid i Drafnidiaeth Cymru oedi gwasanaethau gorsaf Pengam, yn Sir Caerffili, ac mae’n debyg bod gwresogydd trên wedi mynd ar dân yno.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn buddsoddi £5bn i weddnewid gwasanaethau rheilffyrdd Cymru. Rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau ar ôl degawd o esgeulustod a thanfuddsoddi gan Lywodraeth y DU.”