Mae cyn chwaraewr rygbi Cymru Gareth Thomas yn galw ar bobl i redeg er mwyn codi arian ar gyfer goroeswyr strôc.

Cafodd Gareth Thomas, a wnaeth 100 ymddangosiad i Gymru rhwng 1995 a 2007, strôc pan oedd yn 28 oed.

Mae e nawr yn annog rhedwyr i gymryd rhan yn nigwyddiadau’r Gymdeithas Strôc ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n amrywio o redeg un cilomedr i 15 cilomedr.

Dywed cyfarwyddwr codi arian y Gymdeithas Strôc, Andrew Cook: “Rydym wedi gwirioni bod Gareth yma i helpu i godi proffil ein Resolution Run.”

Mae yno fwy na 1.2 miliwn o oroeswyr strôc yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda phroblemau megis anhawster siarad, colli cof ac iechyd meddwl.