Mae canghellor cadeirlan wedi gwadu cyhuddiad o ymosod ar fyfyriwr mewn modd anweddus mewn parti.

Mae’r Parchedig Dr Paul Overend, 53, wedi ei gyhuddo o gydio yn y ddynes a’i chusanu tra’r oedd yn gaplan ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1997. 

Ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ar gyfer gwrandawiad byr ar dydd Iau (Ionawr 2), ac yno mi blediodd yn ddieuog. 

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod, ac mae disgwyl iddo ddychwelyd i’r llys ym mis Mehefin.

Y Canghellor

Treuliodd Dr Paul Overend saith blynedd yn gweithio’n gaplan yng Nghaerdydd cyn dysgu athroniaeth a moeseg yn y brifysgol, ac ym mhrifysgol Liverpool Hope.

Daeth yn Ganghellor ar Gadeirlan Lincoln ym mis Tachwedd 2017, ond mi gamodd o’r neilltu 14 mis yn ddiweddarach pan dderbyniodd dedfryd gan Heddlu De Cymru.