Y dyfarnwr rygbi Nigel Owens oedd y rhedwr dirgel neithiwr (Rhagfyr 31) yn y ras flynyddol yn Aberpennar i gofio am Guto Nyth Bran.

Heidiodd miloedd o bobol i’r strydoedd ar gyfer y ras sy’n dathlu camp Griffith Morgan a oedd, yn ôl chwedloniaeth, wedi rhedeg saith milltir o Aberpennar i Bontypridd ac yn ôl cyn i degell ei fam ferwi.

Bob blwyddyn, mae’r ras yn dechrau wrth i’r rhedwr dirgel gludo ffagl drwy’r dref ar ôl mynd at fedd Guto Nyth Bran.

Dechreuodd y cyfan gyda thân gwyllt cyn i ras y plant rhwng naw a 15 oed ddechrau.

“Mae Nigel Owens MBE yn un o’r personoliaethau sy’n cael ei ddathlu fwyaf yn y byd rygbi a chwaraeon yn gyffredinol,” meddai’r Cynghorydd Ann Crimmings, sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth ar Gyngor Rhondda Cynon Taf.

“Mae’n ennyn parch ac edmygedd sylweddol ar y cae ac oddi arno am ei wybodaeth chwaraeon, ei agwedd deg a’r safiad mae’n ei gymryd yn erbyn rhagfarn – yn enwedig yn y gymuned LGBT.

“Rydym yn falch o’i groesawu fel Rhedwr Dirgel yn Rasys Ffordd Nos Galan 2019 ac rydym yn gwybod y bydd gwylwyr, hen ac ifanc, wrth eu boddau o gael ymuno â’r fath eicon yn y digwyddiad hwn.

“Rydym yn diolch iddo am ymuno â ni eleni yn Aberpennar ar Nos Calan i ddod â hud a lledrith i Rasys Ffordd Nos Galan.”