Mae dyn 75 oed wedi bod gerbron ynadon Llandudno heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 30) ar gyhuddiad o lofruddio dynes 74 oed yn y Friog, Gwynedd ar Ddydd Nadolig.

Mae Thomas Bryan, sy’n byw’n lleol, wedi’i gyhuddo o lofruddio Vivienne Bryan ar ôl i Heddlu’r Gogledd gael gwybod am oddeutu 8 o’r gloch y nos fod dynes wedi cael anafiadau difrifol.

Cafodd Thomas Bryan ei gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug yfory (Dydd Mawrth, Rhagfyr 31).