Bydd gwirfoddolwyr o Gymru yn teithio i’r Alban i helpu’r ymgyrch i sicrhau pleidlais Ie yn y refferendwm ar annibyniaeth.

Dyna gadarnhaodd Elin Jones, AC Cynulliad Ceredigion, heddiw wrth siarad ar ddiwrnod olaf cynhadledd yr SNP yn Inverness.

“I’r gynhadledd hwn, dwi’n dod â neges o longyfarch gan holl aelodau Plaid Cymru ar eich llwyddiant ysgubol yn etholiad cyffredinol yr Alban ym mis Mai,” meddai.

Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn cefnogi ymgyrch yr SNP i sicrhau annibyniaeth. “A dwi’n siŵr y bydd gwirfoddolwyr brwdfrydig yn teithio i fyny i’r Alban i’ch cynorthwyo chi gyda’ch ymgyrch yn ystod y blynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd ei bod hi’n amser i wleidyddion drafod y berthynas gyfansoddiadol rhwng y gwledydd oddi fewn Prydain yn y dyfodol. “Mae’n amser i drafod cydraddoldeb, nid gwaseidd-dra a dibyniaeth,” meddai.

“Mae’n rhaid i’ch dadl chi yn yr Alban ar ddyfodol eich gwlad ein hysbrydoli ni i ddadlau dros ddyfodol ein cenedl ni,” ychwanegodd.