Mae dyn 75 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes 74 oed yn y Friog ar Ddydd Nadolig.

Bu farw Vivienne Bryan ar ôl i Heddlu’r Gogledd gael gwybod am oddeutu 8 o’r gloch y nos fod dynes wedi cael anafiadau difrifol.

Bydd Thomas Bryan, sydd wedi’i gyhuddo o’i llofruddio, yn mynd gerbron ynadon Llandudno yfory (dydd Llun, Rhagfyr 30).

Mae teulu’r ddynes yn dweud iddyn nhw gael “sioc fawr” yn dilyn ei marwolaeth.