Mae dau gyn-arweinydd y Torïaid – yng Nghymru ac yn Llundain – ymhlith y rhai sydd wedi cael eu gwobrwyo yn rhestr anrhydeddau’r flwyddyn newydd.

Mae Andrew RT Davies, cyn-arweinydd yr Wrthblaid yn Senedd Cymru, wedi derbyn CBE, ac fe fydd y cyn-arweinydd yn San Steffan, yn cael ei adnabod fel Syr Iain Duncan Smith o hyn ymlaen.

Wrth longyfarch ei ragflaenydd, meddai Paul Davies AC:

“Mae Andrew RT Davies wedi bod yn Aelod Cynulliad eithriadol sydd wedi ennill parch gan wleidyddion ar draws y pleidiau gwleidyddol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Fel Cymro balch, mae Andrew bob amser eisiau sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli mewn digwyddiadau allweddol, a bod ei etholwyr yn cael eu trin yn effeithiol a gyda dealltwriaeth.”

‘Penderfyniad gwarthus’

Yn y cyfamser, mae’r gwrthbleidiau yn Llundain wedi beirniadu’r anrhydedd a gafodd Iain Duncan Smith, o gofio mai ef oedd yn gyfrifol fel yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau am gyflwyno’r Credyd Cynhwysol.

“Mae hwn yn benderfyniad gwarthus gan Boris Johnson i wobrwyo creulondeb a methiant,” meddai Lisa Nandy o’r Blaid Lafur.

“Mae’r drefn wedi amddifadu pobl o’u hurddas – a does dim anrhydedd yn hynny.”