Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn rhybuddio y mae’n bosib y bydd rhannu o Gymru yn dioddef llifogydd oherwydd glaw trwm sydd i’w ddisgwyl yn hwyr heno (nos Sul), dydd Llun, a hyd at oriau mân fore Mawrth.

De a Gorllewin Cymru fydd yn diodde’r glaw i ddechrau, ac yna yn ystod dydd Llun bydd yn symud i’r Gogledd Ddwyrain, gyda rhai cawodydd hynod o drwm yn cael eu rhagweld.

Y pryder ydi y bydd rhai systemau draenio yn methu â delio efo’r holl law. Gall rhai afonydd a nentydd gael eu heffeithio gan y glaw trwm, hefyd, meddai’r Asiantaeth.

Bydd swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw golwg ar lefelau’r afonydd, ac efallai y bydd rhybuddion pellach o lifogydd yn cael eu rhoi.

Mae’r Asiantaeth yn rhybuddio pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig i fod ar eu gwyliadwriaeth, ac mae’n rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal wrth ddreifio gan efallai y bydd cyflwr y ffyrdd yn beryglus.

Rhif Llinell Lifogydd yr Asiantaeth ydi 0845 9 88 11 88.