Mae gwerth tai yng Nghymru wedi codi bron i £20 y dydd ar gyfartaledd yn 2019, yn ôl gwefan Zoopla.

Mae gwerth cyfartalog tai wedi codi 3.9% dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru i £189,244.

Port Talbot sydd wedi gweld y cynnydd cyfartalog mwyaf eleni, gyda gwerth eiddo’n codi 7.5%, sydd bron yn ddwbwl gwerth tai Cymru.

Cwmbrân sy’n ail ar y rhestr, gyda chynnydd cyfartalog o 6.9% i £168,212.

Mae gwerth tai mewn rhai ardaloedd yng ngwledyd Prydain wedi codi bron i £40 y dydd, ond eraill wedi gostwng £20 y dydd.

Cododd gwerth marchnad dai gwledydd Prydain o £124bn, sy’n gynnydd o 1.6% ac mae’r farchnad bellach yn werth oddeutu £7.8tn.

Y deg uchaf

Dyma’r trefi lle gwelwyd y cynnydd cyfartalog mwyaf:

Here are the highest-ranked towns for property price growth. Figures show the current average house price, the average cash increase in 2019, the average cash daily increase, and the 2019 percentage change, according to Zoopla:

1. Port Talbot

Pris cyfartalog eiddo: £122,074,

Cynydd cyfartalog: £8,476,

Cynnydd cyfartalog dyddiol: £23.22

Newid canrannol: 7.5%

2. Cwmbrân (£168,212 £10,801, £29.59, 6.9%)

3. Leigh (£127,148, £7,488, £20.52, 6.3%

4. Cannock, £183,841, £9,429, £25.83, 5.4%

5. Caeredin, £290,968, £14,376, £39.39, 5.2%

=6. Bootle, £99,330, £4,752, £13.02, 5.0%

=6. Merthyr Tudful, £116,108, £5,521, £15.13, 5.0%

=8. Salford, £182,065, £8,381, £22.96, 4.8%

=8. Walsall, £179,238, £8,267, £22.65, 4.8%

=8. Castell-nedd, £134,486, £6,147, £16.84, 4.8%