Fe fyddai’n rhaid teithio i fynyddoedd yr Alban i gael Nadolig Gwyn eleni, wrth i Gymru fwynhau diwrnod o haul.

Ond mae’r proffwydi tywydd yn rhybuddio y bydd hi’n oer i ddechrau ac y gallai Cymru gael cryn dipyn o niwl ben bore.

Byrhoedlog fydd y tywydd braf, er hynny, gyda disgwyl glaw a gwyntoedd Ddydd Gŵyl San Steffan.

Mae ardaloedd o Loegr yn wynebu’r peryg o ragor o lifogydd wrth i’r gaea’ gwlyb barhau.