Mae’r cyllid blynyddol ar gyfer un o raglenni Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i wella iechyd y geg ymysg pobol hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, wedi cael ei ddyblu i hanner miliwn o bunnoedd. Bellach bydd yn bosibl cynnig y rhaglen i bob cartref gofal yng Nghymru o 2020/21.

Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen Gwên am Byth (A Lasting Smile) sy’n gweithio i wella iechyd y geg mewn dros 52% o gartrefi gofal ar draws y saith bwrdd iechyd. Bydd y buddsoddiad newydd yn golygu y bydd holl gartrefi gofal Cymru yn cael eu gwahodd i ymuno â’r rhaglen o’r flwyddyn nesaf.

Mae iechyd y geg llawer o’r preswylwyr yn wael neu’n annigonol pan maent yn symud gyntaf i’w cartref gofal, yn aml o ganlyniad i iechyd sy’n gwaethygu ac anawsterau symudedd yn ystod y blynyddoedd cyn hynny.

Mae’r rhaglen wedi  helpu i wella iechyd y geg ymysg pobol hŷn, ac wedi helpu’r rheini sydd â dementia nad ydynt wedi gallu dweud wrth eraill bod ganddynt boen yn eu dannedd.

Bydd y cyllid ychwanegol hefyd yn helpu staff y rhaglen i chwilio am ffyrdd o roi rhagor o gymorth i bobl hŷn agored i niwed sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain.