Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw dynes, 84, fu farw mewn gwrthdrawiad ddifrifol yn y Rhigos, Cwm Cynon ddydd Gwener, Rhagfyr 20.

Bu farw Shirley Hope, 84, o Aberdâr ar ôl i’r car Peugeot roedd hi’n gyrru wrthdaro a BMW lliw coch ar Ffordd Rhigos tua 3pm.

Mewn datganiad dywedodd ei theulu y bydd colled fawr ar ei hol a’i bod yn fam a mam-gu gariadus.

Maen nhw’n cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae dau ddyn 25 a 21 oed o Hirwaun wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achos marwolaeth drwy yrru’n beryglus. Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad.

Dywed yr heddlu eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth i’r digwyddiad, yn enwedig unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r modd yr oedd dau gar – BMW coch a BMW gwyn – yn cael eu gyrru funudau cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111 a nodi’r cyfeirnod *466639.