Mae Cynghorwyr Ynys Môn wedi condemnio gweithred o fandaliaeth mewn gwarchodfa natur leol.

Cafodd gwerth cannoedd o bunnoedd o ddifrod ei achosi yn Nant y Pandy, Llangefni nos Lun diwethaf (Rhagfyr 16), lle cafodd dros 50 llath o ffensys pren eu dymchwel.

Cafodd rhan helaeth o’r ffensys eu taflu i mewn i afon sy’n rhedeg drwy Nant y Pandy – ardal goediog 25 acer sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt a hanes.

Treuliodd Tîm Cefn Gwlad Ynys Môn a gwirfoddolwyr ddau ddiwrnod yn trwsio’r safle oedd wedi’i difrodi.

“Trosedd ddifrifol”

Mae’r fandaliaeth wedi’i chondemnio gan Gynghorwyr Canolbarth Môn, Dylan Rees, Bob Parry a Nicola Roberts.

Dywed y Cynghorydd Dylan Rees, “Yn fy marn i, mae hyn yn cynrychioli trosedd ddifrifol a dw i’n gobeithio y bydd y sawl sydd yn gyfrifol yn cael eu dal cyn gynted â phosib.

“Mae gwarchodfa Nant y Pandy yn adnodd cymunedol gwerthfawr dros ben sy’n cael ei drysori gan bobl leol ac ymwelwyr; ac mae’n drasiedi ei weld yn cael ei ddifrodi fel hyn.”