Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod rhai o’r cynghorau mwyaf yng Nghymru yn colli allan ar filiynau o bunnau’r flwyddyn drwy beidio â defnyddio pwerau i godi treth gyngor uwch ar ail gartrefi.

Ers 2014, mae cynghorau wedi bod â’r grym i godi treth cyngor uwch – hyd at 100% yn fwy – ar eiddo gwag ac ail gartrefi.

Yn ôl gwaith ymchwil gan y mudiad iaith, mae naw cyngor sir wedi defnyddio’r pwerau, gan godi dros £20m ers 2017.

Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod wyth cyngor heb ddefnyddio’r pwerau o gwbl sef Sir Gaerfyrddin, Bro Morgannwg, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Casnewydd a Chastell-nedd Port Talbot.

Dechreuodd Cyngor Caerdydd godi treth gyngor uwch ar eiddo gwag eleni ond nid ar ail gartrefi, meddai’r mudiad. Nid oedd Cymdeithas yr Iaith wedi cael ateb gan bedwar cyngor sir.

Cynghorau sydd wedi elwa

Roedd eu gwaith ymchwil yn dangos bod Cyngor Sir Benfro wedi elwa fwyaf o’r polisi gan ennill £5.8m dros gyfnod o dair blynedd. Mae cynghorau Powys ac Ynys Môn wedi casglu dros £4m yn ychwanegol yr un, gyda Chyngor Gwynedd yn derbyn £2.2m yn fwy mewn un flwyddyn yn unig a Sir y Fflint dros £1.3m.

“Syndod”

Mewn ymateb i’r newyddion, dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith bod y canlyniadau yn “dipyn o syndod” a bod “rhai ohonyn nhw wedi colli allan ar filiynau o bunnau” achos nad ydyn nhw wedi defnyddio eu pwerau hyd yn hyn – “miliynau y gallai fod wedi eu buddsoddi mewn tai cyngor neu ysgolion”.

Ychwanegodd Robat Idris: “Ymgyrchodd y Gymdeithas dros y polisi fel un ffordd o daclo’r broblem o ail gartrefi, sy’n ddifrifol o ran cynaliadwyedd cymunedau, gwasanaethau a’r Gymraeg. Ond hefyd, mae’r dreth gyngor uwch yn ffordd o sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael i fuddsoddi mewn cymunedau a gwasanaethau lleol.

“Mae’n galonogol gweld bod nifer o gynghorau wedi elwa o ymgyrch y Gymdeithas i sicrhau’r pwerau trethu. Rydyn ni’n ymwybodol bod yr arian ychwanegol yng Ngwynedd wedi ei fuddsoddi mewn tai i bobl ifanc leol – ac mae hynny i’w ganmol.

“Dylai Llywodraeth Cymru ystyried rhagor o ffyrdd i daclo’r problemau – er enghraifft, dylen nhw edrych at enghreifftiau yng Nghernyw o’r cyfyngiadau sydd wedi eu gosod ar y canran o dai mewn cymuned sy’n cael bod yn ail gartrefi. Mae ail gartrefi yn rhan o broblem ehangach am sut mae tai yn cael eu hystyried. Yn hytrach na meddwl am dai fel asedau ar gyfer hapfasnachu, mae angen eu hystyried fel hawl dynol sylfaenol i gartref.”

Treth ar dwristiaeth

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith dylid datganoli ragor o bwerau trethi i gynghorau lleol.

“Rydyn ni’n ymgyrchu dros alluogi cynghorau i godi treth ar dwristiaeth. Mewn nifer o ardaloedd mae angen cydnabod bod cost i dwristiaeth sy’n effeithio ar y gymuned, mae ond yn iawn felly bod gan bobl leol y cyfle i ennill adnoddau ychwanegol er mwyn buddsoddi’n lleol. Mae trethi ar dwristiaeth yn gyffredin iawn ledled y byd.”

“Rhoi pŵer i awdurdodau lleol”

Wrth ymateb i’r ymchwil, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod “ail gartrefi yn gallu effeithio gwahanol gymunedau mewn gwahanol ffyrdd – weithiau yn dod â thwristiaeth a hwb economaidd i ardal, a weithiau – pryd mae cartrefi’n cael eu gadael yn wag yn y tymor hir – yn cael effaith niweidiol ar y gymuned leol.

“Felly, yr awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i fynd i’r afael â’r mater hwn a dyna pam yr ydym wedi rhoi iddynt y pŵer i godi premiymau i hyd at 100% ar dreth gyngor tai gwag hirdymor ac ail gartrefi yn eu hardal, i’w defnyddio ochr yn ochr â’r pwerau eraill sydd ar gael iddynt.

“Mae cyfraddau uwch o dreth trafodiadau tir hefyd ar gaffael tai ychwanegol. Rydym, wrth gwrs, yn agored i edrych ar fesurau eraill os credir eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau.”