Mae’r heddlu’n rhybuddio pobl yng ngorllewin Sir Conwy i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag lladron ar ôl cyfres o achosion o dorri i mewn i dai dros yr wythnosau diwethaf.

“Rydym yn gofyn i bobl sicrhau eu bod yn diogelu eu heiddo’n iawn, hyd yn oed os nad ydyn nhw ond yn mynd allan am amser byr,” meddai’r Rhingyll Sarah Hughes o Heddlu Gogledd Cymru.

“Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r lladron wedi torri eu ffordd i mewn ac mae eitemau gan gynnwys gemwaith a dyfeisiadau trydan wedi cael eu dwyn.

“Rydym yn benderfynol o ddal y rheini sy’n gyfrifol ond rydym yn dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd ac yn apelion ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni ar unwaith.

“Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus neu unrhyw gerbydau amheus yn eich ardal.”