Mae 104 o weithwyr ffatri blastig Rehau, yn Amlwch wedi colli eu gwaith – a hynny ddim ond ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.

Cadarnhaodd Prif Weithredwr y cwmni Almaeneg, Martin Hitchin, y byddai’r ffatri yn cau nôl ym mis Ebrill eleni yn dilyn “gostyngiad o 70% mewn galw” am eu cynnyrch.

Dywed y Cynghorydd Sir dros ward Twrcelyn, sy’n cynnwys Amlwch, ei bod hi’n siom gweld tref yn colli gwaith.

“Yn hanesyddol, mae Amlwch wedi bod yn dref ddiwydiannol,” meddai Richard Griffiths.

“Ond beth sydd wedi digwydd yn y deng mlynedd ddiwethaf ydi fod bob man yn cau, mae’r lle wedi dirywio gymaint”.

Mae Richard Griffiths wedi bod yn gefnogwr brwd o Wylfa B, ac yn teimlo fod buddsoddiad o’r fath yn hanfodol i bobl Ynys Môn.

Dywedodd wrth golwg360: “Roeddwn i’n hollol gefnogol i Wylfa B, ac mi faswn i’n dweud fod mwyafrif o’r bobl eisiau Wylfa Newydd hefyd.

“Mi fasa fo’n rhywbeth fasa’n cynnig swyddi a chyflogau da, a be sy’n druenus ydi pe basa pobl yn gallu cael y cyflogau mi fasa nhw’n gwario yn yr ardal – rhoi hwb i bawb”.

Ymateb Rhun Ap Iorwerth

Mae Aelod  Cynulliad Môn, Rhun ap Iorwerth wedi dweud wrth golwg360 fod Amlwch yn ardal sydd wedi dioddef “ergyd ar ôl ergyd” yn ystod yn blynyddoedd diwethaf.

“Mae colli ffatri Rehau yn Amlwch yn ergyd drom i’r dref a’r ardal yn ehangach,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae’r cwmni wedi bod yn gyflogwr pwysig yma ers degawdau lawer. Beth sy’n bwysig rwan yw bod Llywodraeth Cymru wirioneddol yn sylweddoli bod angen rhoi buddsoddiad ym Môn i sicrhau cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.”