Roedd y pact etholiadol rhwng pleidiau ‘aros’ Cymru yn aflwyddiannus, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru.

Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion oll yn gwrthwynebu Brexit, ac yn yr etholiad cyffredinol mi wnaethon nhw gynghreirio mewn 11 sedd yng Nghymru.

Wnaeth ymgeiswyr gamu o’r neilltu mewn sawl etholaeth yn enw’r cytundeb, ac ymhlith y seddi a gafodd eu heffeithio roedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ac Ynys Môn.

Doedd Ceredigion ddim yn rhan o’r pact, ac er bod ei Aelod Seneddol, Ben Lake, yn derbyn y gallai weithio yn y dyfodol, mae o’r farn ei fod wedi methu y tro yma.

“Sa i’n credu oedd y pact yn llwyddiannus iawn ar draws Cymru,” meddai wrth gylchgrawn Golwg. “Dim jest barn yw hwnna. Mae’r canlyniadau yn dweud hynny i ni…

“Mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod fel plaid bod e’n rhywbeth eithaf annisgwyl, ac i nifer o’n cefnogwyr selocaf ni mewn rhai rhannau o Gymru, yn beth anodd iawn i’w dderbyn.

“Mae’r syniad yma ein bod ni’n gallu jest cymryd yn ganiataol bod cefnogwr neu bleidleisiwr Plaid Cymru yn mynd i fynd yn awtomatig i blaid arall yn un ffôl.”

Plaid a’r pact

Dan y cytundeb mi gamodd y Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol o’r neilltu mewn saith sedd er mwyn cryfhau gobeithion Plaid Cymru.

Dwyfor Meirionnydd, Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ynys Môn, Caerffili, Pontypridd, a Llanelli; oedd y seddi yma.

Llwydodd y Blaid a chadw’i gafael ar Ddwyfor Meirionydd, Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ond wnaethon nhw fethu ag ennill y gweddill.

Cynyddodd eu mwyafrif yn Arfon, ond cwympodd eu mwyafrif, fel nifer, yn Nwyfor Meirionydd a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Llawer mwy am oblygiadau’r etholiad yng nghylchgrawn Golwg