Mae penodi Simon Hart i Gabinet Boris Johnson yn newyddion da i S4C, yn ôl Guto Bebb.

Bu’r ddau Dori yn rhannu swyddfa am chwe blynedd a hanner ar ôl cael eu hethol i San Steffan yn 2010, a dod yn ffrindiau da.

Ddechrau’r wythnos cyhoeddwyd mai Simon Hart yw’r Ysgrifennydd Gwladol newydd tros Gymru – penodiad fydd yn “bwysig” i S4C meddai Guto Bebb.

Fe allai’r drefn o ariannu S4C ddod yn bwnc trafod amlwg eto yn y blynyddoedd nesaf, pan fydd ffi drwydded y BBC yn cael ei gosod.

Mae Boris Johnson eisoes wedi dweud ei fod am weld y Gorfforaeth yn rhoi trwyddedau teledu am ddim i’r rheiny dros 75 oed.

Dan yr amodau hynny fe fyddai’r BBC yn colli arian, a’r ofn yw y byddai llai wedyn i S4C, y sianel Gymraeg sy’n derbyn y rhan fwyaf o’i harian gan y Gorfforaeth.

“Cefnogwr pybyr i S4C”

Yn ystod yr etholiad mae rhai Ceidwadwyr wedi dadlau dros gael gwared ar y drwydded deledu yn llwyr, ac mae disgwyl mwy o ffraeo am hynny.

Ac yn y cyd-destun yma, mae Guto Bebb yn dweud ei bod yn dda o beth bod fod Yr Egin, pencadlys newydd-ish S4C, o fewn etholaeth Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Mae Simon wedi bod yn gefnogwr pybyr i S4C,” meddai Guto Bebb wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

“Er gwaetha’r ffaith nad ydy o’n siarad Cymraeg, mae o yn gwerthfawrogi bod yna draean o’i etholwyr o yn Gymry Cymraeg, ac mae o wedi bod yn cyfarfod yn gyson efo pobol fel Huw Jones ac Ian Jones, y cyn-Brif Weithredwr.”

Ac mae Guto Bebb yn dweud y gall y Sianel Gymraeg ddibynnu ar David TC Davies am gefnogaeth hefyd.

Mae AS Mynwy wedi ei benodi yn Ddirprwy Weinidog yn Swyddfa Cymru.

“Mae cael David Davies – sy’n deall y berthynas rhwng cyllido’r BBC a chyllido S4C – yn Swyddfa Cymru, yn mynd i fod yn newyddion reit dda,” meddai Guto Bebb.

“Mi fuodd o’n gefnogol iawn i S4C yn ystod ei gyfnod yn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol [Materion Cymreig].”

Llawer mwy am oblygiadau’r Etholiad Cyffredinol yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg