Mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 70mya yng Nghymru heno.

Bydd Cymru, Gogledd Iwerddon a rhannau gorllewinol yr Alban yn dwyn baich y gwyntoedd trwy gydol nos Fercher ac mae rhybuddion melyn eisoes mewn lle.

Gall y gwyntoedd cryfion effeithio ar ffyrdd, rheilffyrdd, trafnidiaeth awyr a fferi.

Ond er gwaetha’r rhybuddion, mae disgwyl i bethau ddistewi throi’n fwy mwyn erbyn y Nadolig wythnos nesa.