Fe ddylai cwmnïau dwr yng Nghymru a Lloegr ostwng eu biliau gan oddeutu £50, neu 12%, dros y pum mlynedd nesaf, yn ôl rheoleiddiwr y diwydiant.

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun (Rhagfyr 16), dywed Ofwat y dylai biliau dwr ar gyfartaledd ostwng 12% cyn chwyddiant fel rhan o adolygiad prisiau bob pum mlynedd.

Mae’r gostyngiad mewn biliau yn dibynnu gyda pha gwmni mae perchennog y tŷ.

Fe fydd cwsmeriaid Hafren Dyfrdwy yn gweld gostyngiad o ddim ond 3%.

Mae’r penderfyniad yn dilyn cymeradwyaeth Ofwat o fuddsoddiad o £51 biliwn ar gyfer cwmnïau dwr.

Mae’r rheoleiddiwr yn dweud bod angen trawsnewid y diwydiant i wella effeithlonrwydd i gwsmeriaid a diogelu’r amgylchedd.