Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cyllideb ddrafft heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 16) gyda’r pwyslais ar ragor o fuddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a cheisio diogelu dyfodol y blaned.
Hon yw cyllideb gyntaf Llywodraeth Cymru ers i’r datganiad ar yr argyfwng hinsawdd gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Y bwriad yw creu “Cymru wyrddach, mwy cyfartal a mwy llewyrchus.”
Ond wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi eu cylch gwario un flwyddyn, mae cyllid Llywodraeth Cymru yn is, mewn termau real, nag yn 2010.
“Cyni didostur”
Dywed y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans: “Mae’r Gyllideb ddrafft hon yn gwireddu ein haddewid i bobl Cymru ac yn buddsoddi i ddiogelu dyfodol ein planed.
“Er gwaethaf degawd o gyni, bydd ein cynlluniau yn golygu y byddwn wedi buddsoddi £37 biliwn yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ers dechrau tymor y Cynulliad hwn yn 2016.
“Rydyn ni hefyd yn neilltuo swm sylweddol o arian newydd i arafu’r newid yn yr hinsawdd ac i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig, fel ysgolion a llywodraeth leol, i gyd yn gweld cynnydd yn eu harian.
“Mae ein haddewidion wedi llywio ein blaenoriaethau yn wyneb cyni didostur llywodraeth y DU sy’n golygu bod Cymru wedi bod ar ei cholled.”