Mae Jonathan Edwards yn dweud bod “cadw seddi mewn tswnami gwleidyddol yn dipyn o lwyddiant” iddo fe a Phlaid Cymru.

Daliodd y blaid eu gafael ar eu pedair sedd ar noson ddigon amrywiol i’r pedwar aelod seneddol yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Arfon, Ceredigion a Dwyfor-Meirionnydd.

Tra bod Ben Lake wedi ei ethol yng Ngheredigion yn 2017 â mwyafrif o 104, fe gododd y mwyafrif hwnnw i 6,329 y tro hwn.

Ac fe gynyddodd Hywel Williams ei fwyafrif yntau  i 2,781 y tro hwn, o 92 ddwy flynedd yn ôl.

Ond lleihau gwnaeth mwyafrif Liz Saville-Roberts yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, a hynny o drwch blewyn o 4,850 yn 2017 i 4,740 – gwahaniaeth o ddim ond 110 o bleidleisiau.

Yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, cwympodd mwyafrif Jonathan Edwards o 3,908 dros Lafur yn 2017 i 1,809 dros y Ceidwadwyr eleni.

“Yn achos finnau yn Nwyrain Caerfyrddin, wnaethon ni lwyddo’n rhyfeddol i gadw canran y bleidlais yr un peth o gymharu â 2017, a hefyd nifer y pleidleisiau,” meddai Jonathan Edwards wrth golwg360.

“A hynny yn y cyd-destun lle ry’n ni’n gwybod bo ni wedi colli carfan o bleidleiswyr i’r Blaid Geidwadol oherwydd Brexit.

“Ni wedi llwyddo i ddenu pleidleiswyr Llafur i lenwi’r bwlch.

“O ystyried bo ni wedi wynebu tswnami gwleidyddol ledled Prydain a Chymru, mae cadw seddi Plaid Cymru’n dipyn o lwyddiant yn y cyd-destun hynny, fi’n credu.

“Amser welais i’r pôl gadael, do’n i ddim yn meddwl mai Dwyrain Caerfyrddin fyddai’r sedd fwya’ mewn perygl ond fel mae’n ymddangos, mae tair sedd arall y Blaid wedi cryfhau eu sefyllfa.

“Ond yn anffodus, mae’r mwyafrif yn Nwyrain Caerfyrddin wedi syrthio ond mae’n sedd hollol wahanol i’r tair arall.”

Beth ddigwyddodd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?

Yn draddodiadol, bu Plaid Cymru a Llafur yn brwydro am y sedd yn etholaeth Jonathan Edwards yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Fe enillodd e fwyafrif o 3,908 dros yr ymgeisydd Llafur David Darkin ddwy flynedd yn ôl.

Ond dydd Iau diwethaf, brwydr oedd hi rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr, wrth iddo fe sicrhau mwyafrif o ddim ond 1,809 dros Havard Hughes.

Fel yr eglura Jonathan Edwards, mae’r sefyllfa wleidyddol wedi newid yn sylweddol yn yr etholaeth o fewn dwy flynedd.

“Mae Llafur wedi’u dinistrio’n llwyr yn yr etholaeth. Cafodd Plaid Cymru ddwywaith y pleidleisiau gafodd y Blaid Lafur ac mae’r her bellach yn dod o’r Blaid Geidwadol.

“Yng nghyd-destun hynny, fe fydd nifer o gefnogwyr traddodiadol y Blaid Lafur yn Nyffryn Aman yn dechrau gofyn y cwestiwn a ydyn nhw’n meddwl fod parhau i bleidleisio dros y Blaid Lafur yn syniad da oherwydd goblygiadau hynny yn y dyfodol fydd sicrhau bod y Blaid Geidwadol yn ennill y sedd.”

All Plaid Cymru oroesi’r newid mawr?

Gyda’r hinsawdd wleidyddol yn newid yn sylweddol yng Nghymru yn sgil Brexit, mae Plaid Cymru’n wynebu dyfodol ansicr.

Ond un peth sy’n sicr yw bod angen iddyn nhw allu ymateb i’r her mae Brexit yn ei chynnig iddyn nhw – ac un o’r rheiny, meddai, yw bod grym yn symud yn raddol o Fae Caerdydd i San Steffan.

“Mae Brexit wedi arwain at ail-lunio gwleidyddiaeth o fewn gwleidyddiaeth Prydain ac yn sicr o fewn gwleidyddiaeth Cymru,” meddai Jonathan Edwards.

“Mae ’na gwestiwn a her yn mynd i wynebu Plaid Cymru.

“Ni wedi colli carfan o’n cefnogwyr, ni wedi ennill cefnogaeth hefyd, wrth gwrs, o’r Blaid Lafur.

“Ond ni wedi colli carfan o’n cefnogwyr i brosiect asgell dde cenedlaetholgar Seisnig. Dyna beth yw Brexit.

“Fel mae pobol yn mynd o Blaid Cymru i gefnogi Plaid Brexit, dwi ddim cweit yn siŵr o hynny yn fy mhen i!

“Ond mae wedi digwydd a’r cwestiwn yw sut y’ch chi’n denu pobl nôl?

“Ni’n mynd i weld San Steffan yn ail-ormesu ei hunan ar draul y Cynulliad Cenedlaethol. Dyna beth sy’n mynd i ddigwydd.

“Mae pwerau gwleidyddol Cymru’n mynd i gael eu sbaddu ac felly, a oes cyfle i apelio i gefnogwyr traddodiadol Plaid Cymru achos dw i ddim yn gallu credu y byddai pobol sy’n cefnogi Brexit yn cefnogi lleihau grym gwleidyddol Cymru.”

Dau lwybr i Gymru

Dywed Jonathan Edwards fod yr etholiad hwn wedi “chwalu’n ddarnau y naratif fod rhaid pleidleisio dros Lafur i atal y Blaid Geidwadol”.

Ac mae’n dweud bod gan Gymru ddau lwybr posib erbyn hyn.

“Un sy’n mynd lawr llwybr gwleidyddiaeth genedlaetholgar, Brydeinig, Seisnig, adweithiol, asgell dde, fewnblyg iawn neu un arall lle mae Cymru’n sefyll ar ei thraed ei hunan gyda gwleidyddiaeth flaengar lle mae buddsoddi yn ein cymunedau a bod pobol yn cael eu trin yr un fath.

“Dwi ddim yn gwybod fel mae’n mynd i droi ma’s fel mae’r sefyll ar hyn o bryd. Ond mawr obeithio y bydd pobol Cymru yn dewis y llwybr cywir.”

Annibyniaeth?

Un ffordd o sicrhau’r wleidyddiaeth flaengar mae Jonathan Edwards yn cyfeirio ati yw ceisio annibyniaeth i Gymru.

Roedd y polau diweddaraf cyn yr etholiad cyffredinol yn awgrymu bod cefnogaeth i annibyniaeth yn sefyll rywle rhwng 24% a 30%, ond mae’n debygol y bydd y ffigwr yn cynyddu eto.

Yn sicr, dydy’r sefyllfa bresennol ddim yn gynaliadwy, meddai.

“Dwi ddim yn credu bo chi’n gallu ymladd yn erbyn prosiect cenedlaetholgar Prydeinig insiwlar fel Brexit sy’n canoli pŵer yn San Steffan drwy ddweud bod datganoli yn gallu parhau fel mae e.

“Oherwydd mae’r Llywodraeth Brydeinig yn mynd i geisio dinistrio datganoli, felly mae’n rhaid ymladd beth sy’n wynebu ni.

“Dyna pam fod twf cefnogaeth yn y mudiad annibyniaeth fi’n credu, fel ymateb i Brexit a beth mae’n golygu, nid dim ond oherwydd y cwestiwn cyfansoddiadol ond bob math o gwestiynau eraill.

“Dyna pam fod y Blaid Lafur mewn cymaint o strach ar y ddau gwestiwn mawr sylfaenol sy’n wynebu ni, sef perthynas y Wladwriaeth Brydeinig ag Ewrop a pherthynas Cymru ag Ewrop, ond wedyn y cwestiwn cenedlaethol yng Nghymru fod y Blaid Lafur yn niwtral.

“Amser chi’n wynebu prosiect chwyldroadol Brexit, chi’n methu aros yn yr unfan yn wynebu hynny neu chi’n mynd i gael eich llyncu.”