Mae Jonathan Edwards yn dweud y gall ei gyd-Bleidiwr yng Ngheredigion, Ben Lake ddod yn flaenllaw fel gwleidydd yn San Steffan.

Fe fu aelod seneddol Plaid Cymru’n ymateb i fwyafrif sylweddol ei gydweithiwr, wrth iddo ennill 15,208 o bleidleisiau, mwyafrif o 6,329 a 37.9% o’r bleidlais.

Fe ddaeth i’r amlwg yn yr etholiad cyffredinol ddwy flynedd yn ôl wrth adennill y sedd i Blaid Cymru oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

‘Mynd o nerth i nerth’

Ac yn ôl Jonathan Edwards, aelod seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mae’n mynd o nerth i nerth.

“Fi’n cofio siarad â Ben yn fuan ar ôl iddo fe gael ei ethol a dweud, “Gwranda, bydd rhaid i ti weithio’n galed yn Llundain ond bydd rhaid i ti weithio’n fwy caled yn dy etholaeth,” meddai wrth golwg360.

“Dyna’r ffordd i gadw sedd, ac mae e wedi gwneud job a hanner, job gwych.

“Fi’n falch iawn drosto fe ac fi’n credu bod y ffaith fod e wedi cael mwyafrif mor sylweddol yng Ngheredigion yn gwneud y sedd yn un saff iawn, ac mae ’na gyfle iddo fe amlygu ei hun fel gwleidydd o safon yn San Steffan.

“A gobeithio bydd e’n fodlon cymryd y cyfle hwn.”