Fe fydd ymchwiliad yn dechrau’r wythnos hon ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion orfod cau rhan o Lwybr yr Arfordir.

Mae rhan o’r llwybr rhwng parc carafanau Helyg Fach a phentref Tresaith yn anniogel, ac mae’r cyngor yn rhybudio pobol i gadw draw hyd nes y byddan nhw wedi ymweld â’r safle ddechrau’r wythnos.

Maen nhw’n rhybuddio y gallai symudiad pellach ddigwydd, ac maen nhw wedi gosod arwyddion yn rhybuddio pobol am y perygl.