Mae cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi dweud wrth golwg360 nad oedd “y bobl oedd yn darogan fod Ben Lake am golli ei sedd ddim yn gwybod am beth yr oedden nhw’n sôn”.

Bu’n noson a hanner i Ben Lake wrth iddo gynyddu ei fwyafrif o 104 i 6,329 – a hynny mewn etholaeth roedd sawl un wedi darogan y gallai ddisgyn o afael Plaid Cymru.

Fe gafodd Ben Lake 15,208 o bleidleisiau.

Y Ceidwadwr Amanda Jenner ddaeth yn ail gyda 8,879 o’r bleidlais.

Fe syrthiodd pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol i 6,975, a hynny ddim ond dwy flynedd ers iddyn nhw golli’r sedd o drwch blewyn i Ben Lake.

Mae Cynog Dafis, a fu yn Aelod Seneddol Ceredigion rhwng 1992 a 2000, wedi dweud wrth golwg360 fod mwyafrif swmpus y Blaid yno yn “deyrnged i Ben Lake fel gwleidydd”.

“Mae e’n ddyn uchel iawn ei barch, nid yn unig yma yng Ngheredigion lle bu cryn ganfasio iddo, ond hefyd yn San Steffan,” meddai Cynog Dafis.

“Mae Ben Lake yn wleidydd hynod o alluog, yn ogystal â bod yn hynaws, yn ddymunol ac yn gyfeillgar tuag at bobl.

“Ond mae’n rhaid i mi ddweud hefyd, na fyddai pobl wedi pleidleisio i Ben Lake yn y niferoedd yna tasa ganddyn nhw ddim parch tuag at Blaid Cymru hefyd”.