Mae Plaid Cymru wedi cadw sedd Arfon a llwyddo i ddenu ei nifer fwyaf erioed o bleidleisiau yno.

Fe ddaeth yr etholaeth i fodolaeth yn 2010 yn dilyn newid ffiniau, a bryd hynny fe enillodd Hywel Williams y sedd i Blaid Cymru gyda 9,383 o bleidleisiau.

Ond fu ond y dim iddo golli’r sedd yn etholiad cyffredinol 2017, wrth i’r Blaid Lafur ddod o fewn 92 pleidlais iddo.

A’r tro hwn bu Llafur yn llygadu’r sedd gan gludo canfaswyr o Lerpwl i gnocio drysau yn yr etholaeth.

A’r Sul diwethaf daeth Jeremy Corbyn i annerch y ffyddloniaid ym Mangor.

Ond ofer fu’r ymdrech Lafur wrth i Hywel Williams gynyddu ei fwyafrif i 2,781 a chael y nifer mwyaf erioed yn fotio drosto, sef 13,134.

Roedd pleidlais Llafur lawr 5% i 10,353 y tro hwn.

Trydydd oedd y Ceidwadwyr gyda 4,428 o’r bleidlais, a’r blaid Brexit yn bedwerydd gyda 1,159.

“Ardderchog” meddai Siân Gwenllïan

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Arfon wedi croesawu perfformiad Hywel Williams.

“Ar noson gyffredinol wael i Gymru, dwi’n falch iawn ein bod wedi gweld ein pedwar AS Plaid Cymru yn cael eu hail-ethol i gynrychioli eu cymunedau a’n gwlad,” meddai Siân Gwenllïan.

“Mae’r canlyniad yn Arfon yn ardderchog, y nifer uchaf o bleidleisiau i Blaid Cymru erioed.

“Mae Adam Price wedi bod yn llais clir dros Gymru yn yr etholiad ac mae ei arweiniad effeithiol ac ysbrydoledig yn golygu fod y Blaid mewn lle cryf iawn wrth feddwl am etholiad Senedd Cymru yn 2021.

“Ond rwy’n bryderus iawn am y dyfodol o dan Johnson.

“Dyw ef yn poeni dim am Gymru ac mae Llafur yn hollol aneffeithiol yn ei erbyn.”