Mi fydd Boris Johnson yn sicrhau cytundeb masnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd cyn diwedd y flwyddyn nesaf, a chladdu’r posibilrwydd o Frexit heb gytundeb.

Dyna mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ei ddweud drannoeth y fuddugoliaeth fawr i’w blaid.

Fe gipiodd y Ceidwadwyr chwe sedd oddi ar y Blaid Lafur yng Nghymru, gan gynyddu nifer eu Haelodau Seneddol yng Nghymru i 14.

Ar lefel Brydeinig, mae Boris Johnson wedi sicrhau mwyafrif swmpus a’r canlyniad gorau i’w blaid ers dyddiau Margaret Thatcher yn y 1980au.

Ac mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ffyddiog y bydd ei Brif Weinidog yn delifro Brexit yn 2020.

“Rydw i wrth fy modd bod pobol Cymru a gweddill y Deurnas Unedig wedi rhoi mwyafrif i’n Prif Weinidog fynd ati i ddelifro Brexit, a rhoi taw ar bron i bedair blynedd o ansicrwydd,” meddai Paul Davies.

“Bydd yn cynnig sicrwydd i fusnesau a’r Undeb Ewropeaidd bod y Deyrnas Unedig yn gadael erbyn diwedd mis Ionawr.

“Mae Boris Johnson wedi delifro i ni o’r blaen ac mi fydd yn delifro i ni eto, trwy osod cytundeb yn ei le gyda’r Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd 2020, a chladdu’r ansicrwydd ynghylch Brexit heb gytundeb.”

‘Brexit yw’r flaenoriaeth’

Dyma’r canlyniad gorau i’r Ceidwadwyr yng Nghymru ers 1983.

Ac mi fydd cael 14 o Aelodau Seneddol Cymreig ar feinciau’r Ceidwadwyr yn “sicrhau fod llais positif i Gymru yn cael ei glywed yn glir a chroyw yn y Senedd”, yn ôl Paul Davies.

“Mae yn amlwg, drwy ennill seddi fel Pen-y-bont ar Ogwr ac Ynys Môn – seddi sydd heb AS Ceidwadol ers 32 o flynyddoedd – fod pobol Cymru eisiau cyflawni Brexit, a dyn beth wnawn ni.”