Mae Anna McMorrin, aelod seneddol Llafur yng Ngogledd Caerdydd, yn dweud mai ar Jeremy Corbyn mae’r bai am berfformiad siomedig y blaid yn yr etholiad cyffredinol.

Daw ei sylwadau er iddi gadw ei sedd gyda mwyafrif o 6,982 dros y Ceidwadwr Mo Ali.

“Dros wythnosau ola’r ymgyrch, fe wnaethon ni guro ar 15,000 o ddrysau ac i’r rhan fwyaf o’r bobol y gwnaethon ni siarad â nhw, Jeremy Corbyn oedd y broblem,” meddai wrth y Press Association.

“Mae e wedi dangos heno ei fod e wedi colli aelodau seneddol da a pharchus sy’n gweithio’n galed y mae eu hangen arnom i’r wlad gael ei hailadeiladu ac i sicrhau ein bod ni’n cael ein gwarchod a’n cynrychioli a’n bod ni’n creu cymdeithas decach.

“All hynny ddim digwydd nawr, a dw i’n meddwl mai’r unig un all gymryd cyfrifoldeb yw ein harweinydd.”