Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ymchwiliad “llawn a thryloyw” i’r ffordd y cafodd gwasanaeth bws ei ariannu yn etholaeth Ken Skates, De Clwyd.

Mae ymchwiliad ar y gweill i’r posibilrwydd fod y Gweinidog Trafnidiaeth wedi torri rheolau Llywodraeth Cymru.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn gwrthod gwneud sylw hyd nes bod yr ymchwiliad ar ben.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn gofyn iddo gynnal yr ymchwiliad “ar frys”.

‘Sicrwydd’

“Fe fydd angen sicrwydd ar bleidleiswyr De Clwyd a holl bleidleiswyr Cymru y bydd yr ymchwiliad hwn i dorri honedig o’r Cod Gweinidogol yn un llawn a thryloyw,” meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydym yn disgwyl y bydd ymchwiliad brys i achos Mr Skates gan arweinydd ei blaid yng Nghymru, y Prif Weinidog Mark Drakeford.”

Yn ôl y llefarydd, ysgrifennodd Russell George, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, at y prif weinidog saith wythnos yn ôl yn tynnu sylw at y mater.

Atebodd y prif weinidog ar Dachwedd 20 yn dweud bod y mater yn cael sylw “yn y modd arferol”.

“Dw i’n credu y bydd pawb yn Ne Clwyd, ac yng ngweddill Cymru, eisiau gwybod canlyniad yr ymchwiliad, os yw’r ymchwiliad ar ben ac os na, pryd y bydd hynny,” meddai’r llefarydd wedyn.