Mae cyhoeddiad wedi ei wneud y  bydd Prifysgol Cymru yn diflannu, ac mae Cadeirydd y sefydliad addysg uwch sydd wedi bod yn gwasanaethu Cymru ers 1893 wedi ymddiswyddo.

Mae’r Brifysgol wedi bod o dan y lach yn ddiweddar  ers i ymchwiliad gan BBC Cymru ddatgelu bod myfyrwyr tramor wedi derbyn graddau gan y Brifysgol trwy dwyll.

Bydd Prifysgol Cymru yn uno â’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant fydd enw’r sefydliad newydd.

Wrth gyhoeddi’r newyddion am ddiflaniad Prifysgol Cymru neithiwr, roedd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes, yn cyflwyno neges bositif. “Mae’r penderfyniad hanesyddol hwn a wnaed gan Gyngor Prifysgol Cymru yn un i’w groesawu’n frwd, a bydd y trawsnewidiad hwn yn creu Prifysgol a fydd yn gwasanaethu ac yn gweithredu ar ran Cymru,” meddai.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Cadeirydd Prifysgol Cymru, meddai Hugh Thomas, “Mae’r penderfyniad hanesyddol a gymerwyd gan y Corff Llywodraethu – yn ystod fy nghadeiryddiaeth i – wedi achosi i mi ystyried buddiannau gorau’r Brifysgol ddiwygiedig yn nhermau arweinyddiaeth. Rwyf wedi gofyn i fy Is-Gadeirydd, Mr Alun Thomas, eich hysbysu fy mod yn bwriadu ymddiswyddo fel cadeirydd,” meddai.

Talodd Alun Thomas deyrnged iddo am ei wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. “Mae Hugh yn ŵr o unplygrwydd ac ymroddiad,” meddai. “Rydym yn ddiolchgar dros ben iddo am arwain y Brifysgol i sefyllfa lle mae etifeddiaeth y rhai a’i sefydlodd yn ddiogel.”

Cyhoeddwyd hefyd bod Cyngor Prifysgol Cymru wedi sefydlu Adduned Cymru a fydd yn sicrhau ymrwymiad parhaus o fewn y Brifysgol ddiwygiedig i gefnogi diwylliant Cymru.