Roedd storm Atiyah wedi gadael 1,300 o gartrefi yng Nghymru heb drydan dros nos, ond mae Western Power yn dweud bod cyflenwadau wedi cael eu hadfer yn hanner y cartrefi erbyn hyn.

Mae cwmni SP Energy Networks yn ceisio adfer cyflenwadau trydan ardal Pwllheli.

Ar eu cryfaf, mae gwyntoedd wedi cyrraedd 77 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd yn y gogledd, a 74 milltir yr awr yng Ngheredigion.

Ond mae ardaloedd eraill wedi cael eu heffeithio hefyd, gan gynnwys Abertawe, Caerffili, Powys, Rhondda Cynon Taf a Sir Benfro.

Mae rhybudd melyn yn ei le yn y de, y gorllewin a’r canolbarth tan 9 o’r gloch fore heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 9).

Teithio 

Mae’r tywydd yn cael effaith sylweddol ar deithwyr ym mhob rhan o Gymru ar hyn o bryd.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae coed wedi cwympo ar ffordd A476 rhwng Ffair-fach a Charmel, ac rhwng Tre-Ioan a Llangain ar ffordd B4312.

Mae pontydd Cleddau yn Sir Benfro a Britannia yn Ynys Mon ynghau i gerbydau uchel.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae sgaffaldau wedi cwympo yn ardal Pen-y-graig ger Tonypandy.

Ac mae un lôn ynghau i’r ddau gyfeiriad ar Bont Hafren yr M48.

Doedd y fferi o Ddulyn ddim wedi gallu cyrraedd y lan yng Nghaergybi dros nos, ac mae oedi o hyd at bum awr ar y daith oedd i fod i adael am 8.10 fore heddiw.