Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am “weithredu brys” i fynd i’r afael â phrinder athrawon sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Daw’r alwad ar ddechrau’r wythnos pan fydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi rheoliadau addysg newydd.

Bydd y rheoliadau hyn yn eu lle ar gyfer cynlluniau statudol deng mlynedd i gynghorau, gyda’r bwriad o ehangu addysg Gymraeg erbyn 2030.

Bu’r Gymdeithas yn galw ers pedair blynedd am sicrhau bod digon o athrawon er mwyn cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Maen nhw bellach yn galw am:

  • osod targedau statudol ar golegau hyfforddi athrawon er mwyn cynyddu canrannau’r bobol fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • cyflwyno rhaglen ddwys o hyfforddiant mewn swydd wahaniaethol yn y gweithle;
  • sicrhau mai nod pob un cwrs yn y cynllun sabothol yw bod gweithwyr yn mynd ymlaen i addysgu drwy’r Gymraeg wedi’r cwrs, gyda thystysgrif sgiliau fel gwarant;
  • ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith; ac
  • mabwysiadu strategaeth benodol ar gyfer cynllunio’r gweithlu addysg Gymraeg

‘Croesawu ymdrechion’

“Rydyn ni’n croesawu ymdrechion y Llywodraeth i gryfhau’r cynlluniau addysg Gymraeg presennol,” meddai Toni Schiavone, is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Fodd bynnag, dyw’r Llywodraeth ddim wedi gwneud hanner digon i wella pethau o ran cynllunio’r gweithlu, yn enwedig cynyddu nifer yr athrawon sy’n addysgu drwy’r Gymraeg.

“Ers blynyddoedd bellach, rydyn ni wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i weithredu ar hyn, ond dydyn nhw ddim wedi gweithredu o ddifri.

“Er mwyn cael y cynnydd mae pawb am ei weld, bydd rhaid iddyn nhw wrando yn y pen draw.

“Er ein bod yn gwerthfawrogi ymdrechion swyddogion i wneud eu gorau glas o fewn cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, mae’n gwbl amlwg bellach bod angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn cyflawni gweledigaeth miliwn o siaradwyr y Llywodraeth.

“Wedi’r cwbl, dyna oedd yr argymhelliad clir gan banel o arbenigwyr y Llywodraeth yn gynharach eleni. Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth wrando ar yr arbenigwyr.”